The Kooth logo

“Mae’n dda gwybod bod lle diogel i ffermwyr fynd. Bydd unrhyw un sy’n mynd drwy gyfnod anodd gyda’u lles yn dod o hyd i gymuned gefnogol – felly does dim rhaid i neb deimlo eu bod nhw ar eu pen eu hunain.” 

Ar ôl profi’r llwyfan gydag aelodau eraill o glybiau ffermwyr ifanc, roedden ni i gyd yn gytûn ei fod yn hawdd ei ddefnyddio, a’i fod yn cynnwys cyfoeth o adnoddau a blogiau (ar iechyd meddwl a materion penodol yn y diwydiant amaeth) sydd ar gael i’r rhai sydd ei angen.

Mae’n bosib dewis bod mor ddi-enw ag y mae’r defnyddiwr yn ei ddymuno, gan ganiatáu iddyn nhw ddewis eu henw eu hunain a defnyddio cymaint o’r llwyfan ag yr hoffen nhw. Mae hynny’n bwysig i bobl yn y diwydiant amaeth neu yn ein sefydliad ni sydd eisiau cymorth o bosib ond sydd ddim yn siŵr ble i droi ac sy’n poeni am siarad gyda rhywun.

Mae’n bosib ei ddefnyddio mewn sawl ffordd, ac mae’n gweithio’n dda ar wahanol ddyfeisiau a brofwyd gan ein haelodau ni. Mae’n llwyfan gwerthfawr i unrhyw un sy’n ymdopi â materion iechyd meddwl ar unrhyw lefel, gan roi lle diogel iddyn nhw siarad, a gobeithio y bydd hefyd yn helpu i sicrhau nad yw pobl yn teimlo eu bod nhw ar eu pen eu hunain.

Mae iechyd meddwl wedi dod i’r amlwg fel pryder yn ein diwydiant ni dros y blynyddoedd diwethaf. Drwy ddarparu cymorth 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, mae’r llwyfan yma’n offeryn hanfodol i helpu. Fel diwydiant, rydyn ni’n ymwybodol bod problemau iechyd meddwl ac ynysu wedi cynyddu yn ystod Covid-19, a bydd y llwyfan yma’n ffordd i’r rhai sydd wedi’u hynysu gael cysylltiad â phobl a chael mynediad at gymorth pryd bynnag y bydd ei angen a phwy bynnag ydyn nhw.

Katie Davies, Cadeirydd CFfI Cymru

Leave a Reply

Discover more from Explore Kooth

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading