The Kooth logo

“Mae amaeth yn gallu bod yn fyd eitha unig, felly mae’n dda gwybod bod cymorth ar gael gan bobl sy’n deall y pwysau penodol yna.”

Mae iechyd meddwl yn rhywbeth rydyn ni fel Ffederasiwn wir yn ei gymryd o ddifri. Rydyn ni’n gwybod bod amaeth yn gallu bod yn fywyd anodd a bod angen i ni edrych ar ôl ein gilydd.

Yn ddiweddar, rydyn ni wedi gweld ymdrech go iawn yn y sector i wella dealltwriaeth y gymuned amaethyddol o faterion iechyd meddwl. Mae codi ymwybyddiaeth a darparu gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn hawdd yn allweddol er mwyn cyrraedd cymaint o bobl â phosib.

Mae gwella lles meddyliol yn faes mae CFfI Gwlad yr Haf yn weithgar iawn ynddo. Yn 2020 rydyn ni’n ymuno â Grŵp Iechyd Meddwl ym myd Amaeth Gwlad yr Haf. Rydyn ni wedi gallu ariannu sawl un o’n haelodau i hyfforddi fel swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl. Mae gallu nabod rhai o’r arwyddion sy’n dangos falle bod rhywun yn ei chael hi’n anodd yn un o’r sgiliau yna sydd wir yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Lawn mor bwysig, mae gwybod pa wasanaethau sydd ar gael a ble i gyfeirio pobl sydd angen cymorth gan weithwyr proffesiynol o bosib. Mae’n dda gwybod bod RABI yn rhoi cymaint o bwys ar y mater, drwy ddarparu’r adnoddau cymunedol ar-lein yma.

Drwy gychwyn sgwrs agored a gonest a gweithio gyda’n gilydd, gallwn ni i gyd helpu i daclo lles meddyliol ym myd amaeth.”

Rebecca Horsington, Trefnydd Sirol, CFfI Gwlad yr Haf

Leave a Reply

Discover more from Explore Kooth

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading